Ar y diwrnod hwn yn hanes pêl-droed Cymru ... Charles ac Allchurch i’r adwy

Yn ôl yn nhymor 1953/54, cynhaliwyd ail ymgyrch ragbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd. Bu’r un gyntaf, bedair blynedd ynghynt, yn fethiant llwyr, ond y tro hwn roedd y rhagolygon yn fwy addawol i’r crysau cochion.

Y prif reswm am y newid oedd presenoldeb John Charles ac Ivor Allchurch yn eu rhengoedd – yn ddiau, dyma’r ddau chwaraewr gorau i gynrychioli Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif.

Fel ym 1949/50, defnyddiwyd y Bencampwriaeth Ryngwladol Gartref fel grŵp rhagbrofol ar gyfer y cenhedloedd cartref, sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyma’r unig adran lle câi dau dîm wahoddiad i’r rowndiau terfynol yn y Swistir. 

Erbyn i Gymru wynebu’r Alban ar Barc Hampden ar 4 Tachwedd 1953, roeddent eisoes wedi colli eu gêm gyntaf.

Er iddynt deyrnasu drwy gydol yr hanner cyntaf yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd, dan ddylanwad mawreddog y cawr Charles, roedd anaf i Alf Sherwood wedi’u condemnio, ar gam, wrth i’r Saeson rwydo bedair gwaith yn absenoldeb y cefnwr – nid oedd dim eilyddion yn yr oes honno – ac ennill o 4-1.

Roedd gohebwyr pêl-droed The Times a’r Western Mail yn gytûn am anghyfiawnder y canlyniad ar Barc Ninian. Disgrifiodd Citizen berfformiad Charles a’i griw yn yr hanner cyntaf fel un disgleiriaf Cymru ers blynyddoedd lawer, ond roeddent yn waglaw yn y bencampwriaeth a’r grŵp rhagbrofol cyn teithio i Glasgow ymhen llai na mis.

Yn ôl y disgwyl, rhoddodd y dewiswyr bleidlais o hyder ym mhob aelod o’r uned orchfygedig – nid oedd Trevor Ford ar gael iddynt eto – i ymgiprys â’r Albanwyr yn eu cadarnle’u hunain. 

Roedd gôl ryngwladol gyntaf Allchurch wedi dwyn y pwyntiau i Gymru ar Barc Hampden ddwy flynedd ynghynt ac roedd cynifer ag wyth o’r tîm cyfredol wedi cyfranogi bryd hynny. Yn wir, roedd eu sefydlogrwydd yn gwrthgyferbynnu â’r Alban, a hepgorodd chwech o’r chwaraewyr a fu’n fuddugol yn Belfast.

Gellid gweld aflonyddwch y dewiswyr cartref o’u penderfyniad i gael gwared ar y llinell flaen gyfan – er iddynt sgorio tair gôl yn erbyn Gogledd Iwerddon. Adferwyd Lawrie Reilly a Billy Liddell er mwyn ychwanegu ychydig o finiogrwydd ymosodol, a chyflwynwyd deuawd newydd i bêl-droed rhyngwladol, sef John McKenzie ar yr asgell dde a Willie Telfer yng nghanol yr amddiffyn.

Byddai Telfer yn ceisio ffrwyno Charles – nid y cychwyn hawsaf i yrfa neb ar y lefel uchaf. Fodd bynnag, y modd mwyaf effeithiol o ffrwyno rhywun fel Charles oedd drwy gyfyngu ar ei gyfleoedd a byddai Telfer a’i gydchwaraewyr yn llwyddo i wneud hynny yn yr hanner cyntaf ar Barc Hampden.

Gyda’r Albanwyr yn eu hanterth, goroesodd yr ymwelwyr gyfres o giciau cornel cyn i Reilly dwyllo Sherwood ar ôl deunaw munud. Erbyn i Ron Howells, golwr Cymru, ymateb i’r perygl, roedd Allan Brown wedi trosi croesiad Reilly. Roedd yr Alban ar y blaen ac yn bygwth claddu’u gwrthwynebwyr; aeth ymdrech Liddell heibio i’r targed ac arbedodd Howells beniad Reilly.

O safbwynt Cymru, ni fu’r un awgrym hyd hynny yn Glasgow o’r beiddgarwch a siglodd y Saeson. Dylent fod wedi tynnu’n gyfartal beth bynnag o gic rydd cyn yr hanner, ond nid oedd Reg Davies yn ddigon effro i fachu ar agoriad euraid. Yn anffodus i Davies, byddai’i dîm mewn dyfroedd dyfnach yn fuan wedyn wrth i Bobby Johnstone rwydo ar ôl dianc rhag crafangau Roy Paul a Walley Barnes.

Yn wahanol i’w gêm flaenorol yn y bencampwriaeth, nid oedd Cymru wedi creu’r argraff leiaf ar amddiffyn yr Alban ac roeddent ar ei hôl hi’n haeddiannol o ddwy gôl ar yr egwyl. Ond newidiodd hynny dair munud wedi’r ailddechrau pan gafodd Charles, cymeriad ymylol yn y cyfnod cyntaf, ei gyflenwi’n addas am unwaith gan Billy Foulkes. Taniodd Charles y bêl â phob gewyn o’i gorff cyhyrog tuag at y targed o ryw ddeunaw llath ac roedd yr ergyd yn rhy rymus o lawer i George Farm, y golwr cartref, allu’i rhwystro rhag agor cyfrif Cymru.

Byddai’r Alban yn adennill eu mantais gyfforddus cyn yr awr pan lithrodd Daniel, gan ganiatáu i Reilly blannu’r bêl yn rhwyd Howells.

Roedd y gôl yn ymddangos yn un farwol i ragolygon rhagbrofol Cymru, ond roedd ganddynt ysbryd cryfach nag arfer ar yr achlysur hwn – ynghyd â dau chwaraewr dihafal. Roedd un ohonynt (Charles) eisoes wedi hybu’r posibilrwydd o atgyfodiad nodedig; tro’r llall (Allchurch) ydoedd i gamu i flaen y gad bellach.

Yn groes i’w anian anturus, roedd Allchurch wedi treulio trwch y gêm ar y droed ôl, ond amlygwyd ei athrylith yn ei holl ogoniant ar ôl 65 munud. Ffugiodd ei ffordd drwy’r amddiffyn cartref, gan ddefnyddio Charles i ddenu sylw’r crysau gleision, cyn i’w gynnig fflachio heibio i Farm o’r tu allan i’r cwrt cosb. Roedd yn gôl unigol hollbwysig gan y dyn gwallt golau o glwb Abertawe, gan iddi warantu diweddglo trydanol i’r ornest wedi’r cwbl.

Cynyddodd y tyndra’n anorfod yn dilyn gorchest Allchurch – tan i Charles gwrso cic hir Howells yn y funud olaf ond un. Oedodd Telfer, nad oedd wedi camsynied drwy gydol ei gap cyntaf, cyn trosglwyddo’r bêl i Farm y tro hwn ac roedd Charles yno ar amrantiad i’w chipio a’i gosod yn y rhwyd o safle cyfagos. 

Roedd Cymru, diolch yn bennaf i Charles, wedi rhannu’r anrhydeddau rywsut ar Barc Hampden, felly, gan gadw’u hunain yn fyw yn y ras ragbrofol tan iddynt herio Gogledd Iwerddon yn y gwanwyn.

Yr Alban (2) 3
Cymru (0) 3
Yr Alban: Farm, Young, Cox, Evans, Telfer, Cowie, McKenzie, Johnstone, Reilly, Brown, Liddell.
Goliau: Brown 19, Johnstone 41, Reilly 57
Cymru: Howells, Barnes, Sherwood, Paul, Daniel, Burgess, Foulkes, Davies, Charles, Allchurch, Clarke.
Goliau: Charles 48, 88, Allchurch 65

Daw'r darn uchod o lyfr digidol cynhwysfawr newydd ar gyfer Kindle, Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950 ­– 1974, sydd bellach ar gael i’w archebu ymlaen llaw ar wefan Amazon. Rhoddir yr holl elw i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr.


Comments

Popular posts from this blog

Diwedd breuddwyd arall i bêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd

From the Battle of Wrexham to wunderkind Woodburn’s audacious entrance: a brief history of Wales v Austria (part four)

From the Battle of Wrexham to wunderkind Woodburn’s audacious entrance: a brief history of Wales v Austria (part three)