Posts

Showing posts from October, 2017

Llyfr digidol newydd sy’n dathlu rhai o gewri pêl-droed Cymru

Mae dau frodor o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfuno i ryddhau llyfr Cymraeg digidol am hanes cynnar pêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd. Mae Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950–1974 bellach ar gael i’w archebu am £3.49 ar gyfer Kindle ar wefan Amazon , er na chaiff ei ddosbarthu i ddarllenwyr tan 25 Rhagfyr. Rhoddir yr holl elw sy’n deillio o’r llyfr i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr . Yn ôl yr awdur, Huw Portway, dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i ymdrin yn fanwl â phob gêm Cymru yng Nghwpan y Byd o’r ymgyrch wreiddiol, sef 1950, tan 1974. Cyfieithydd yw Huw a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Porthcawl a bu’n llafurio i gwblhau a chyhoeddi’i lyfr ers ail hanner y 1990au. “Mae hi wedi bod yn broses hir a hynod rwystredig ar adegau,” meddai Huw am ei ymdrechion dros y blynyddoedd. “Ond roeddwn i’n benderfynol o beidio â rhoi’r ffidil yn y to.” Mae’n cyfaddef na fyddai wedi llwyddo i roi’r maen i’r wal heb gymorth amhrisiadwy ei gyd-gyfieithydd Lloyd