Posts

Showing posts from December, 2017

Llafur cariad a llafur caled: y cefndir i'm llyfr am bêl-droed Cymru

Isod ceir y cefndir i’m llyfr digidol newydd, Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950-1974 , sydd ar gael i’w brynu ar gyfer Kindle am £3.49. Rhoddir yr holl elw sy’n deillio o’r llyfr i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr. Bu llunio fy llyfr yn llafur cariad a dweud y lleiaf. Ffurfiodd y syniad o ysgrifennu llyfr am hynt tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn fy nychymyg rywbryd yn ail hanner y 1990au, ar ôl darganfod cyfrolau cyffelyb (yn Saesneg, wrth gwrs) am Loegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon gan awdur o’r enw Clive Leatherdale. Fel mewn meysydd eraill, roedd y Cymry wedi’u hanwybyddu, gan f’ysgogi i geisio unioni’r cam hwnnw fy hun. Roedd gennyf ddigonedd o amser a chymhelliant i ymgymryd â’r dasg gan nad oedd fy rhagolygon proffesiynol yn rhy addawol ar y pryd. Roeddwn yn ddi-waith ac yn dioddef o ryw glefyd anhysbys a oedd yn achosi poen eithriadol yn fy nhraed ac yn effeithio’n ddifrifol ar fy ngallu i gerdded, heb sôn am gysgu, yn iawn. Câi’r clefyd hwn ei ddehongli fe