Llafur cariad a llafur caled: y cefndir i'm llyfr am bêl-droed Cymru
Isod ceir y
cefndir i’m llyfr digidol newydd, Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950-1974,
sydd ar gael i’w brynu ar gyfer Kindle am £3.49. Rhoddir yr holl elw
sy’n deillio o’r llyfr i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr.
Bu llunio fy llyfr yn llafur cariad a dweud y lleiaf. Ffurfiodd y syniad o ysgrifennu llyfr am hynt tîm pêl-droed Cymru yng Nghwpan y Byd yn fy nychymyg rywbryd yn ail hanner y 1990au, ar ôl darganfod cyfrolau cyffelyb (yn Saesneg, wrth gwrs) am Loegr, yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon gan awdur o’r enw Clive Leatherdale. Fel mewn meysydd eraill, roedd y Cymry wedi’u hanwybyddu, gan f’ysgogi i geisio unioni’r cam hwnnw fy hun.
Roedd gennyf ddigonedd o amser a chymhelliant i ymgymryd â’r dasg gan
nad oedd fy rhagolygon proffesiynol yn rhy addawol ar y pryd. Roeddwn yn
ddi-waith ac yn dioddef o ryw glefyd anhysbys a oedd yn achosi poen eithriadol
yn fy nhraed ac yn effeithio’n ddifrifol ar fy ngallu i gerdded, heb sôn am
gysgu, yn iawn. Câi’r clefyd hwn ei ddehongli fel psoriatic arthritis
maes o law a byddai’n f’atal rhag gweithio am ddegawd cyfan. Diolch byth, ni
fyddai’n f’atal rhag cyflawni’r ymchwil angenrheidiol i fwrw ymlaen â’m cynllun
uchelgeisiol i ysgrifennu fy llyfr.
Felly, euthum ati i gael gafael ar bob llyfr perthnasol am bêl-droed
Cymru’n benodol, a Chwpan y Byd yn gyffredinol, yn ogystal â phori drwy hen
gopïau o’r Western Mail, South Wales Echo a The Times ar
beiriannau microffilm yn llyfrgell Coed Parc ym Mhen-y-bont a llyfrgell ganolog
Caerdydd. Roedd y cyfleusterau cyhoeddus hynny’n hanfodol gan mai adroddiadau
o’r papurau uchod yw sylfaen y darnau am y gemau eu hunain, yn absenoldeb fawr
o dystiolaeth fideo o’r cyfnod dan sylw.
Y rheswm rwyf wedi cyfyngu’r llyfr i’r cyfnod rhwng diwedd yr ail ryfel
byd a Chwpan y Byd 1974 – rwyf wedi ymchwilio’n drwyadl hyd at ymgyrch 1994 –
yw’r ffaith mai gwaith unigolyn fu hwn o’r cychwyn cyntaf. Heb gymorth
cyhoeddwr na golygydd – tan i’m cyfaill a’m cydweithiwr Lloyd Evans gamu’n
garedig i’r adwy a phrawfddarllen y cwbl am ddim – bu’n rhaid i fi wneud popeth
ar fy liwt fy hun, gan beri i’r broses olygyddol fod yn lletchwith tu hwnt, yn
enwedig gan i fi dreulio cyhyd arni a newid cyfeiriad, o safbwynt arddull, sawl
gwaith yn y cyfamser. Nid oes syniad gennyf faint o’r fersiwn wreiddiol a
luniwn ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon sydd wedi goroesi, ond ychydig iawn,
dybiaf!
Y cwestiwn sydd wedi fy mhlagio dros y blynyddoedd diwethaf yw: ai
camgymeriad oedd ysgrifennu’r llyfr yn y Gymraeg yn hytrach nag yn fy
mamiaith, sef y Saesneg? Pe bawn wedi bod yn berchen ar ronyn o synnwyr
cyffredin, neu feddylfryd cyfalafol, byddwn wedi dewis y Saesneg fel fy
nghyfrwng, heb os nac oni bai. Dan yr amgylchiadau hynny, rwy’n amcangyfrif y
byddai’r llyfr wedi’i gyhoeddi erbyn 2005 – ymhell cyn i gampwaith Phil Stead, Red Dragons, ymddangos ar y silffoedd a
gwneud cymwynas fawr â phêl-droed Cymru.
Yn sicr, rwyf wedi difaru fy mhenderfyniad i ffafrio’r Gymraeg ar
adegau, yn enwedig pan oedd fy ngyrfa yn y gwellt, ond mae’r amheuon hynny wedi
diflannu bellach. Yn ogystal â rhoi gobaith i fi yn ystod fy ‘negawd coll’, mae’r
broses o ysgrifennu’r gyfrol hon wedi fy ngalluogi i fireinio fy sgiliau
Cymraeg i’r graddau lle rwyf erbyn hyn yn ddigon medrus i ennill cyflog fel
cyfieithydd. Heb fy llyfr, ni fyddai hynny wedi bod yn bosibl.
Un peth na fu byth yn destun amheuaeth yn fy meddwl yn ystod yr ugain
mlynedd diwethaf yw teilyngdod y pwnc ei hun. Beth bynnag yw barn rhai
cefnogwyr rygbi unllygeidiog a phobl anwybodus eraill, mae stori pêl-droedwyr
Cymru yng Nghwpan y Byd yn werth ei hadrodd a’i darllen. Mae’r hanes hwn yn
cwmpasu gyrfaoedd enwogion fel John Charles, Ivor Allchurch a Jack Kelsey a’u
huchafbwynt dan reolaeth Jimmy Murphy yn Sweden ym 1958; siom y 1960au pan
gloffodd tîm Dave Bowen yn wyneb rhwystrau aruthrol gan glybiau Lloegr; a gwreichion
cyntaf yr adfywiad a geid yn y 1970au wrth i sêr newydd fel Terry Yorath, John
Mahoney, John Toshack a Leighton James ddod i’r amlwg. Rwy’n bwriadu ymdrin â
blodeuo’r genhedlaeth honno, ynghyd ag anturiaethau Ian Rush, Mark Hughes,
Neville Southall a’u cydchwaraewyr yn y 1980au a dechrau’r 1990au, yn fy
nghyfrol nesaf. Dylai fod ar gael i’w phrynu erbyn 2030 fan bellaf.
Roedd yn teimlo ar yr adeg y dechreuais ar fy llyfr fy mod yn
ysgrifennu marwnad i bêl-droed Cymru. Roedd ugain mlynedd o gystadlu’n gryf yn
erbyn goreuon y cyfandir wedi dod i ben ar ôl i dîm Yorath fethu, dan amgylchiadau
dirdynnol a thrist, â chyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd 1994 yn yr Unol
Daleithiau. Yn y ddau ddegawd a ddilynodd ymadawiad Yorath fel rheolwr ar
ddiwedd 1993 – yn groes i ddymuniadau’r chwaraewyr a’r cefnogwyr fel ei gilydd
– oherwydd anghydfod rhyngddo a Chymdeithas Bêl-droed Cymru, baglodd y crysau
cochion o un anhap i’r nesaf. Yn wir, roedd yn ymddangos bod y dyddiau da wedi
diflannu am byth.
Diolch i’r drefn (a
Gareth Bale), newidiodd hynny ym mis Hydref 2015 pan enillodd y tîm cenedlaethol,
dan arweiniad Chris Coleman, eu lle yn rowndiau terfynol Ewro 2016 yn Ffrainc.
Dylai rhediad gorfoleddus Cymru i bedwar olaf y gystadleuaeth honno fod yn
hysbys i bawb sy’n darllen y geiriau hyn. Rwy’n gobeithio y bydd fy llyfr yn
rhoi llwyddiant Coleman a’i griw yn ei gyd-destun priodol drwy ddenu sylw at
orchestion a siomedigaethau’r arloeswyr a’u rhagflaenodd. Mwynhewch.
Gallwch brynu'r llyfr, a thrwy hynny helpu i
hyrwyddo'r Gymraeg ar lawr gwlad, drwy glicio yma: https://www.amazon.co.uk/P%C3%AAl-droed-Cymru-Nghwpan-1950-1974-Welsh-ebook/dp/B076BSYH36
Comments
Post a Comment