Posts

Showing posts from November, 2017

Ar y diwrnod hwn yn hanes pêl-droed Cymru ... Charles ac Allchurch i’r adwy

Yn ôl yn nhymor 1953/54, cynhaliwyd ail ymgyrch ragbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd. Bu’r un gyntaf, bedair blynedd ynghynt, yn fethiant llwyr, ond y tro hwn roedd y rhagolygon yn fwy addawol i’r crysau cochion. Y prif reswm am y newid oedd presenoldeb John Charles ac Ivor Allchurch yn eu rhengoedd – yn ddiau, dyma’r ddau chwaraewr gorau i gynrychioli Cymru yn ystod yr ugeinfed ganrif. Fel ym 1949/50, defnyddiwyd y Bencampwriaeth Ryngwladol Gartref fel grŵp rhagbrofol ar gyfer y cenhedloedd cartref, sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. D yma’r unig adran lle câi dau dîm wahoddiad i’r rowndiau terfynol yn y Swistir.  Erbyn i Gymru wynebu’r Alban ar Barc Hampden ar 4 Tachwedd 1953, roeddent eisoes wedi colli eu gêm gyntaf. Er iddynt deyrnasu drwy gydol yr hanner cyntaf yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd, dan ddylanwad mawreddog y cawr Charles, roedd anaf i Alf Sherwood wedi’u condemnio, ar gam, wrth i’r Saeson rwydo bedair gwaith yn absenoldeb y cefnwr – nid oedd di

Diwedd breuddwyd arall i bêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd

Sut mae cloriannu methiant diweddaraf tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd? Collodd tîm Chris Coleman eu gêm ragbrofol olaf, mewn modd hynod anfoddhaol, o 1-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd y mis diwethaf, gan chwalu breuddwyd y cefnogwyr cartref o deithio i Rwsia yn haf y flwyddyn nesaf. Nid oedd hwn yn ddatblygiad ysgytiol o bell ffordd; wedi’r cwbl, mae Cymru wedi bod yn absennol o’r rowndiau terfynol 14 o weithiau’n olynol ers i John Charles a’i griw ddisgleirio yn Sweden ym 1958. Serch hynny, roedd y siom rywsut yn fwy y tro hwn gan fod y tîm cyfredol wedi perfformio’n rhagorol mor aml dan reolaeth Coleman yn ystod y tair blynedd flaenorol, gan gynnwys eu gorchestion nodedig ym Mhencampwriaeth Ewro 2016. Ar ôl syfrdanu pawb drwy dreiddio mor bell â rownd gynderfynol y gystadleuaeth honno, roedd disgwyliadau’n annodweddiadol uchel ar gyfer Cymru yng Nghwpan y Byd. Ond, er iddynt lansio’r ymgyrch drwy chwalu Moldofa o