Diwedd breuddwyd arall i bêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd

Sut mae cloriannu methiant diweddaraf tîm pêl-droed Cymru i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd?

Collodd tîm Chris Coleman eu gêm ragbrofol olaf, mewn modd hynod anfoddhaol, o 1-0 yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon yn Stadiwm Dinas Caerdydd y mis diwethaf, gan chwalu breuddwyd y cefnogwyr cartref o deithio i Rwsia yn haf y flwyddyn nesaf.

Nid oedd hwn yn ddatblygiad ysgytiol o bell ffordd; wedi’r cwbl, mae Cymru wedi bod yn absennol o’r rowndiau terfynol 14 o weithiau’n olynol ers i John Charles a’i griw ddisgleirio yn Sweden ym 1958.

Serch hynny, roedd y siom rywsut yn fwy y tro hwn gan fod y tîm cyfredol wedi perfformio’n rhagorol mor aml dan reolaeth Coleman yn ystod y tair blynedd flaenorol, gan gynnwys eu gorchestion nodedig ym Mhencampwriaeth Ewro 2016.

Ar ôl syfrdanu pawb drwy dreiddio mor bell â rownd gynderfynol y gystadleuaeth honno, roedd disgwyliadau’n annodweddiadol uchel ar gyfer Cymru yng Nghwpan y Byd. Ond, er iddynt lansio’r ymgyrch drwy chwalu Moldofa o 4-0 yng Nghaerdydd, dechreuodd pethau fynd ar gyfeiliorn yn gynnar iawn.

Yn anhygoel, cafwyd canlyniadau cyfartal yn eu pum gêm nesaf, yn erbyn Awstria (2-2), Georgia (1-1), Serbia (1-1), Iwerddon (0-0) a Serbia eto (1-1). Yn y pendraw, gellir priodoli tynged Cymru yng Nghwpan y Byd i’r rhediad rhwystredig hwnnw wrth iddo’u rhoi dan anfantais aruthrol yn y grŵp, un a fyddai’n profi’n ormod iddynt.

Roedd eu sefyllfa ar ddechrau’r tymor hwn yn syml – roedd rhaid iddynt ennill eu pedair gêm ragbrofol olaf i gadw eu gobeithion yn y gystadleuaeth yn fyw.

Mae’n debygol y byddent wedi cwympo wrth y gyntaf o’r clwydi hynny, yn erbyn Awstria, oni bai am ymyrraeth llanc 17 oed o glwb Lerpwl.

Roedd y gêm yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn bygwth gorffen yn ddi-sgôr tan i Ben Woodburn goroni’i gap cyntaf drwy daro gôl i’w thrysori o fewn pum munud iddo gael ei gyflwyno i’r cae gan Coleman.

Gwnaeth Woodburn gyfraniad anhepgor at achub croen Cymru eto ym Moldofa dri diwrnod yn ddiweddarach. Wedi’i ddefnyddio fel eilydd am yr eildro o’r bron, roedd ei chwistrelliad sydyn o gyflymder yn gyfrifol am ddod â gwrthsafiad ystyfnig y tîm cartref i ben wrth iddo greu’r cyfle i Hal Robson-Kanu rwydo gyda llai na deng munud yn weddill.

Roedd arwr annhebygol arall yn Georgia yn y gêm olaf ond un, sef Tom Lawrence, a gipiodd yr unig gôl yn yr ail hanner i osod y llwyfan yn berffaith ar gyfer ymweliad Gweriniaeth Iwerddon â Chaerdydd.

Roedd rhagolygon rhagbrofol Cymru’n addawol o ystyried eu record ysblennydd ar eu tomen eu hunain. Roeddent yn ddiguro yn eu naw gêm ragbrofol gartref flaenorol ac ymysg y gwrthwynebwyr a orchfygwyd ganddynt yn y brifddinas fu Gwlad Belg a’u holl sêr, diolch yn bennaf i athrylith Gareth Bale ar flaen y gad a chadernid Ashley Williams, y capten, yn y cefn.

Ond, fel arfer, roedd yr ystadegau moel yn gamarweiniol gan fod Bosnia, Israel, Georgia a Serbia i gyd wedi sicrhau canlyniadau cyfartal yn Stadiwm Dinas Caerdydd yn y cyfamser. Ac nid oedd Bale, pêl-droediwr gorau Cymru ers oes aur y cawr Charles yn y 1950au, ar gael oherwydd anaf i’w goes.

Heb droed chwith dreiddgar y blaenwr byd-enwog o glwb Real Madrid, cloffodd ei gydwladwyr drwy gydol 90 munud ddirdynnol i’r cefnogwyr cartref.

Roedd angen buddugoliaeth ar y ddau dîm, ond roedd y Gwyddelod yn dal i fod yn barod i lynu wrth eu tactegau negyddol arferol o eistedd yn ôl yn ddwfn yn eu tir eu hunain.

Ni fyddai’r strategaeth hon wedi dwyn ffrwyth oni bai am gamgymeriad gan un o’r Cymry; yn anffodus, dyna’r hyn a gafwyd yn gynnar yn yr ail hanner.

Yn greulon, ond yn deilwng efallai, Williams oedd y dihiryn a gyflwynodd y pwyntiau i Iwerddon pan gollodd y bêl yn anfaddeuol yn ei dir ei hun.

Roedd sawl Cymro arall yn euog o beidio ag ymateb i’r perygl sydyn, gan ganiatáu i James McClean sgorio’r gôl a seliodd le’r ymwelwyr yn y gemau ail-gyfle.

Roedd gan y crysau cochion fwy na hanner awr i wneud iawn am wall Williams, ond nid oedd ganddynt y dychymyg i dorri drwy’r Gwyddelod, a oedd wedi mabwysiadu agwedd ddigyfaddawd at y dasg o rwystro chwaraewyr dawnus fel Aaron Ramsey ers cic gyntaf yr ornest.

Byddwn yn cynnig dau brif reswm am dranc Cymru yng Nghwpan y Byd: absenoldeb Bale ar yr adeg waethaf bosibl a dirywiad graddol Williams a’r amddiffyn a fu’n sylfaen i’w campau yn Ewro 2016.

Oherwydd yr ail ffactor hwnnw, nid oedd tîm Coleman wedi llwyddo i drechu Georgia na Serbia yng Nghaerdydd yn hydref y llynedd, er iddynt fynd ar y blaen yn y ddwy gêm.

Yn y diwedd, roedd y pedwar pwynt a lithrodd drwy afael Cymru ar yr achlysuron hynny, cymaint â’r anhap yn erbyn Gweriniaeth Iwerddon, wedi’u hamddifadu o le yn rowndiau terfynol Cwpan y Byd.

Mae llyfr digidol cynhwysfawr newydd ar gyfer Kindle, Pêl-droed:Cymru yng Nghwpan y Byd 1950 ­– 1974, bellach ar gael i’w archebu ymlaen llaw ar wefan Amazon.





Comments

Popular posts from this blog

From the Battle of Wrexham to wunderkind Woodburn’s audacious entrance: a brief history of Wales v Austria (part two)

Ar y diwrnod hwn yn hanes pêl-droed Cymru ... Charles ac Allchurch i’r adwy

From the Battle of Wrexham to wunderkind Woodburn’s audacious entrance: a brief history of Wales v Austria (part three)