Ar y diwrnod hwn yn hanes pêl-droed Cymru ... Charles ac Allchurch i’r adwy
Yn ôl
yn nhymor 1953/54, cynhaliwyd ail ymgyrch ragbrofol Cymru yng Nghwpan y Byd. Bu’r
un gyntaf, bedair blynedd ynghynt, yn fethiant llwyr, ond y tro hwn roedd y
rhagolygon yn fwy addawol i’r crysau cochion.
Y prif
reswm am y newid oedd presenoldeb John Charles ac Ivor Allchurch yn eu
rhengoedd – yn ddiau, dyma’r ddau chwaraewr gorau i gynrychioli Cymru yn ystod yr
ugeinfed ganrif.
Fel ym
1949/50, defnyddiwyd y Bencampwriaeth Ryngwladol Gartref fel grŵp rhagbrofol ar
gyfer y cenhedloedd cartref, sef Cymru, Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon. Dyma’r
unig adran lle câi dau dîm wahoddiad i’r rowndiau terfynol yn y Swistir.
Erbyn i
Gymru wynebu’r Alban ar Barc Hampden ar 4 Tachwedd 1953, roeddent eisoes wedi
colli eu gêm gyntaf.
Er iddynt
deyrnasu drwy gydol yr hanner cyntaf yn erbyn Lloegr yng Nghaerdydd, dan ddylanwad mawreddog y cawr Charles, roedd anaf
i Alf Sherwood wedi’u condemnio, ar gam, wrth i’r Saeson rwydo bedair gwaith yn absenoldeb y cefnwr – nid oedd dim eilyddion yn yr oes honno – ac ennill
o 4-1.
Roedd gohebwyr pêl-droed The Times a’r Western Mail yn gytûn am
anghyfiawnder y canlyniad ar Barc Ninian. Disgrifiodd Citizen berfformiad Charles a’i griw yn yr hanner cyntaf fel un
disgleiriaf Cymru ers blynyddoedd lawer, ond roeddent yn waglaw yn y
bencampwriaeth a’r grŵp rhagbrofol cyn teithio i Glasgow ymhen llai na mis.
Yn ôl y disgwyl, rhoddodd y dewiswyr
bleidlais o hyder ym mhob aelod o’r uned orchfygedig – nid oedd Trevor Ford ar
gael iddynt eto – i ymgiprys â’r Albanwyr yn eu cadarnle’u hunain.
Roedd gôl
ryngwladol gyntaf Allchurch wedi dwyn y pwyntiau i Gymru ar Barc Hampden
ddwy flynedd ynghynt ac roedd cynifer ag wyth o’r tîm cyfredol wedi cyfranogi
bryd hynny. Yn wir, roedd eu sefydlogrwydd yn gwrthgyferbynnu â’r Alban, a
hepgorodd chwech o’r chwaraewyr a fu’n fuddugol yn Belfast.
Gellid gweld aflonyddwch y dewiswyr cartref
o’u penderfyniad i gael gwared ar y llinell flaen gyfan – er iddynt sgorio tair
gôl yn erbyn Gogledd Iwerddon. Adferwyd Lawrie Reilly a Billy Liddell er mwyn
ychwanegu ychydig o finiogrwydd ymosodol, a chyflwynwyd deuawd newydd i
bêl-droed rhyngwladol, sef John McKenzie ar yr asgell dde a Willie Telfer yng
nghanol yr amddiffyn.
Byddai Telfer yn ceisio ffrwyno Charles – nid y cychwyn hawsaf i yrfa neb ar y lefel uchaf. Fodd bynnag,
y modd mwyaf effeithiol o ffrwyno rhywun fel Charles oedd drwy gyfyngu ar ei
gyfleoedd a byddai Telfer a’i gydchwaraewyr yn llwyddo i wneud hynny yn yr
hanner cyntaf ar Barc Hampden.
Gyda’r Albanwyr yn eu hanterth, goroesodd yr
ymwelwyr gyfres o giciau cornel cyn i Reilly dwyllo Sherwood ar ôl deunaw
munud. Erbyn i Ron Howells, golwr Cymru, ymateb i’r perygl, roedd Allan Brown wedi
trosi croesiad Reilly. Roedd yr Alban ar y blaen ac yn bygwth claddu’u
gwrthwynebwyr; aeth ymdrech Liddell heibio i’r targed ac arbedodd Howells beniad
Reilly.
O safbwynt Cymru, ni fu’r un awgrym hyd
hynny yn Glasgow o’r beiddgarwch a siglodd y Saeson. Dylent fod wedi tynnu’n
gyfartal beth bynnag o gic rydd cyn yr hanner, ond nid oedd Reg Davies yn
ddigon effro i fachu ar agoriad euraid. Yn anffodus i Davies, byddai’i
dîm mewn dyfroedd dyfnach yn fuan wedyn wrth i Bobby Johnstone rwydo ar ôl
dianc rhag crafangau Roy Paul a Walley Barnes.
Yn wahanol i’w gêm flaenorol yn y
bencampwriaeth, nid oedd Cymru wedi creu’r argraff leiaf ar amddiffyn yr Alban
ac roeddent ar ei hôl hi’n haeddiannol o ddwy gôl ar yr egwyl. Ond newidiodd
hynny dair munud wedi’r ailddechrau pan gafodd Charles, cymeriad ymylol yn y
cyfnod cyntaf, ei gyflenwi’n addas am unwaith gan Billy Foulkes. Taniodd Charles
y bêl â phob gewyn o’i gorff cyhyrog tuag at y targed o ryw ddeunaw llath ac
roedd yr ergyd yn rhy rymus o lawer i George Farm, y golwr cartref, allu’i
rhwystro rhag agor cyfrif Cymru.
Byddai’r Alban yn adennill eu mantais
gyfforddus cyn yr awr pan lithrodd Daniel, gan ganiatáu
i Reilly blannu’r bêl yn rhwyd Howells.
Roedd y gôl yn ymddangos yn un
farwol i ragolygon rhagbrofol Cymru, ond roedd ganddynt ysbryd cryfach nag
arfer ar yr achlysur hwn – ynghyd â dau chwaraewr dihafal. Roedd un ohonynt
(Charles) eisoes wedi hybu’r posibilrwydd o atgyfodiad nodedig; tro’r llall
(Allchurch) ydoedd i gamu i flaen y gad bellach.
Yn groes i’w anian anturus, roedd Allchurch
wedi treulio trwch y gêm ar y droed ôl, ond amlygwyd ei athrylith yn ei holl
ogoniant ar ôl 65 munud. Ffugiodd ei ffordd drwy’r amddiffyn cartref, gan
ddefnyddio Charles i ddenu sylw’r crysau gleision, cyn i’w gynnig fflachio
heibio i Farm o’r tu allan i’r cwrt cosb. Roedd yn gôl unigol hollbwysig gan y dyn
gwallt golau o glwb Abertawe, gan iddi warantu diweddglo trydanol i’r ornest
wedi’r cwbl.
Cynyddodd y tyndra’n anorfod yn dilyn
gorchest Allchurch – tan i Charles gwrso cic hir Howells yn y funud olaf ond
un. Oedodd Telfer, nad oedd wedi camsynied drwy gydol ei gap cyntaf, cyn
trosglwyddo’r bêl i Farm y tro hwn ac roedd Charles yno ar amrantiad i’w chipio
a’i gosod yn y rhwyd o safle cyfagos.
Roedd Cymru, diolch yn bennaf i Charles,
wedi rhannu’r anrhydeddau rywsut ar Barc Hampden, felly, gan gadw’u hunain yn
fyw yn y ras ragbrofol tan iddynt herio Gogledd Iwerddon yn y gwanwyn.
Yr Alban (2) 3
Cymru (0) 3
Yr Alban:
Farm, Young, Cox, Evans, Telfer, Cowie, McKenzie, Johnstone, Reilly, Brown,
Liddell.
Goliau: Brown 19, Johnstone 41,
Reilly 57
Cymru:
Howells, Barnes, Sherwood, Paul, Daniel, Burgess, Foulkes, Davies, Charles,
Allchurch, Clarke.
Goliau: Charles 48, 88, Allchurch 65
Daw'r darn uchod o lyfr
digidol cynhwysfawr newydd ar gyfer Kindle, Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950 –
1974, sydd bellach ar
gael i’w archebu ymlaen llaw ar wefan Amazon. Rhoddir yr holl
elw i’r elusen Menter Iaith Bro
Ogwr.
Comments
Post a Comment