Llyfr digidol newydd sy’n dathlu rhai o gewri pêl-droed Cymru
Mae dau frodor o ardal Pen-y-bont ar Ogwr wedi cyfuno i ryddhau llyfr Cymraeg
digidol am hanes cynnar pêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd.
Mae Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y
Byd 1950–1974 bellach ar gael i’w archebu am £3.49 ar gyfer Kindle ar wefan Amazon, er na chaiff ei ddosbarthu i ddarllenwyr tan 25
Rhagfyr. Rhoddir yr holl elw sy’n deillio o’r llyfr i’r elusen Menter Iaith Bro Ogwr.
Yn ôl yr awdur, Huw
Portway, dyma’r gyfrol Gymraeg gyntaf i ymdrin yn fanwl â phob gêm Cymru yng
Nghwpan y Byd o’r ymgyrch wreiddiol, sef 1950, tan 1974.
Cyfieithydd yw
Huw a ddysgodd y Gymraeg fel ail iaith yn Ysgol Gyfun Porthcawl a bu’n llafurio
i gwblhau a chyhoeddi’i lyfr ers ail hanner y 1990au.
“Mae hi wedi bod yn broses hir a hynod rwystredig ar adegau,” meddai Huw am
ei ymdrechion dros y blynyddoedd. “Ond roeddwn i’n benderfynol o beidio â
rhoi’r ffidil yn y to.”
Mae’n cyfaddef na
fyddai wedi llwyddo i roi’r maen i’r wal heb gymorth amhrisiadwy ei
gyd-gyfieithydd Lloyd Evans, a fu’n barod i brawfddarllen y llyfr cyfan am ddim
y llynedd.
“Rydw i’n credu y
byddwn i wedi bod wrthi tan Ddydd y Farn heb gyfraniad Lloyd,” mae Huw yn
esbonio. “Heb gyhoeddwr traddodiadol, mae’n anodd iawn i awdur annibynnol bwyso
a mesur ei waith ei hun, felly roedd gwir angen pâr arall o lygaid i fwrw golwg
drosto.
“Yn sicr, mae
Lloyd wedi helpu i gael gwared ar unrhyw gamgymeriadau – dyna’r gobaith beth
bynnag!”
Fel Huw, dysgodd
Lloyd, sy’n hanu o Faesteg, y Gymraeg fel ail iaith ac ef yw cadeirydd Menter
Iaith Bro Ogwr, yn ogystal â bod yn uwch-gyfieithydd gyda chwmni Prysg.
Mae’r llyfr yn
trafod anturiaethau pêl-droedwyr Cymru wrth iddynt gymryd eu camau cyntaf yng
Nghwpan y Byd rhwng 1950 a 1974, gan gynnwys gorchestion y tîm a ddisgleiriodd
yn y rowndiau terfynol yn Sweden ym 1958 cyn colli yn erbyn Brasil, o ganlyniad
i gôl gan lanc 17 oed o’r enw Pelé.
Mae’n dilyn holl yrfaoedd
rhyngwladol enwogion fel John Charles, Ivor Allchurch a Jack Kelsey; siom y
1960au pan gloffodd y crysau cochion yn wyneb gelyniaeth agored rhai o glybiau
mwyaf Lloegr; a gwreichion cyntaf yr adfywiad a geid yn ail hanner y 1970au
wrth i sêr newydd fel Terry Yorath, John Mahoney, John Toshack a Leighton James
ddod i’r amlwg.
“Er mai’r
gystadleuaeth yn Sweden yw canolbwynt y llyfr, yn ddealladwy, mae’r holl gyfnod
hwn yn ddiddorol iawn, yn fy marn i, gan fod tîm Cymru wedi gorfod ymdopi â
chynifer o anawsterau yn sgìl cyffro 1958,” meddai Huw.
“Fel sy’n wir
mewn llawer o feysydd, gellir dadlau bod y methiannau’n fwy difyr na’r
llwyddiannau. Rydw i’n siŵr bod digon i fodloni unrhyw un sy’n ymhyfrydu ym myd
y campau yma.
“Cofiwch hefyd y
bydd yr holl elw’n mynd at achos da, sef helpu Menter Iaith Bro Ogwr i
hyrwyddo’r Gymraeg ar lawr gwlad. Mae’r pris yn rhesymol iawn, felly rydw i’n eich
annog chi i’w brynu cyn gynted â phosib!”
Comments
Post a Comment