Posts

Showing posts from February, 2018

Cymru'n achub ar eu (hail) gyfle i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd

Ar y diwrnod hwn 60 mlynedd yn ôl, sef 5 Chwefror 1958, roedd gan bêl-droedwyr Cymru gyfle annisgwyl – ac o bosib anhaeddiannol – i gwblhau taith ragbrofol ryfedd drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden ar draul Israel ar Barc Ninian yng Nghaerdydd. Yr hyn a wnaeth y daith mor rhyfedd oedd y ffaith bod tîm Jimmy Murphy eisoes wedi ffarwelio â’r gystadleuaeth unwaith ar ôl iddynt lithro i'r ail safle yn eu grŵp y tu ôl i Tsiecoslofacia. Ond byddai penbleth yn ymwneud ag Adran Asia-Affrica y rowndiau rhagbrofol yn newid y sefyllfa’n sydyn ac yn syfrdanol. Roedd Israel wedi ennill yr adran heb ymgymryd â’r un gêm ragbrofol pan wrthododd Twrci, Indonesia, yr Aifft a Sudan â chwarae yn eu herbyn yn sgil y rhyfela gwaedlyd yn y Dwyrain Canol ym 1956 a 1957. Mynnodd Fifa na ddylai unrhyw dîm gael mynediad i rowndiau terfynol Cwpan y Byd dan yr amgylchiadau anghyffredin hyn. Felly, penderfynwyd cyflwyno ail gyfle yn y gystadleuaeth i un o’r gwledydd a oedd wedi gorff...