Cymru'n achub ar eu (hail) gyfle i gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd

Ar y diwrnod hwn 60 mlynedd yn ôl, sef 5 Chwefror 1958, roedd gan bêl-droedwyr Cymru gyfle annisgwyl – ac o bosib anhaeddiannol – i gwblhau taith ragbrofol ryfedd drwy gyrraedd rowndiau terfynol Cwpan y Byd yn Sweden ar draul Israel ar Barc Ninian yng Nghaerdydd.

Yr hyn a wnaeth y daith mor rhyfedd oedd y ffaith bod tîm Jimmy Murphy eisoes wedi ffarwelio â’r gystadleuaeth unwaith ar ôl iddynt lithro i'r ail safle yn eu grŵp y tu ôl i Tsiecoslofacia. Ond byddai penbleth yn ymwneud ag Adran Asia-Affrica y rowndiau rhagbrofol yn newid y sefyllfa’n sydyn ac yn syfrdanol. Roedd Israel wedi ennill yr adran heb ymgymryd â’r un gêm ragbrofol pan wrthododd Twrci, Indonesia, yr Aifft a Sudan â chwarae yn eu herbyn yn sgil y rhyfela gwaedlyd yn y Dwyrain Canol ym 1956 a 1957.

Mynnodd Fifa na ddylai unrhyw dîm gael mynediad i rowndiau terfynol Cwpan y Byd dan yr amgylchiadau anghyffredin hyn. Felly, penderfynwyd cyflwyno ail gyfle yn y gystadleuaeth i un o’r gwledydd a oedd wedi gorffen yn ail yn y grwpiau eraill, fel gwrthwynebwyr Israel.

Ym mis Rhagfyr 1957, ddeng niwrnod cyn y Nadolig, derbyniodd Cymru anrheg unigryw pan dynnwyd eu henw allan o’r het ym mhencadlys Fifa yn Zurich. Caent ail gynnig yng Nghwpan y Byd, gan frwydro yn erbyn amaturiaid Israel yn y flwyddyn newydd am y fraint o gyfranogi yn y rowndiau terfynol yn Sweden.

Gyda thîm a oedd yn cynnwys y brodyr Charles (John a Mel) ac Allchurch (Ivor a Len), yn ogystal â Jack Kelsey yn y gôl, Dave Bowen, y capten, yng nghanol cae, a Cliff Jones a Terry Medwin ar yr asgell, enillodd Cymru’r cymal cyntaf yn ddi-drafferth o 2-0 yn Tel Aviv. Ivor Allchurch a Bowen biau’r goliau wrth i Kelsey fwynhau un o achlysuron mwyaf segur ei yrfa ryngwladol ddisglair.

Yr unig newid o ran personél ar gyfer yr ail gymal yng Nghaerdydd, lle curwyd Tsiecoslofacia a Dwyrain yr Almaen ym 1957, oedd dyrchafiad Ron Hewitt yn lle Len Allchurch. Er iddynt sefydlu mantais o ddwy gôl erbyn y chwib olaf yn Tel Aviv, roedd angen canlyniad cyfartal o leiaf ar Gymru ar Barc Ninian. Nid oedd y sgôr ar gyfartaledd yn cyfrif wrth benderfynu’r buddugwyr dros ddau gymal yng nghystadlaethau Fifa – yn wahanol i Gwpan Pencampwyr Ewrop, a reolid gan gorff arall, sef Uefa (Undeb Cymdeithasau Pêl-droed Ewrop). Yng Nghwpan y Byd, pan fo timau’n ennill un gêm yr un, roedd yn rhaid iddynt wynebu’i gilydd eto ar dir niwtral i setlo’r mater yn derfynol.

Roedd popeth yn dal yn y fantol, felly, wrth i Bowen a Ya’akov Hodorov, golwr a chapten arwrol Israel, dywys eu chwaraewyr ymlaen i’r maes gwlyb: roedd glaw trwm wedi condemnio’r ymwelwyr o hinsawdd sych y Dwyrain Canol i ymdopi ag amgylchiadau estron ar gyrion prifddinas Cymru. Bu'r gohebydd pêl-droed Dewi Lewis yn annodweddiadol hyderus yn y Western Mail ar fore’r gêm, gan ddarogan digonedd o goliau i ddifyrru’r dorf fawr ar Barc Ninian – ond ni châi’i broffwydoliaeth ei gwireddu’n gynnar ar brynhawn anghyfforddus i’r cefnogwyr cartref disgwylgar.

Llwyddodd yr Israeliaid ystyfnig i wrthsefyll y pwysau di-baid drwy lynu wrth yr un cynllun cul roeddent wedi’i fabwysiadu dair wythnos ynghynt, sef taclo diflino’r tîm cyfan ac arbediadau gwyrthiol eu capten. Arweiniai Hodorov ei dîm drwy esiampl, gan gynyddu’r rhwystredigaeth yn rhengoedd y Cymry wrth i’w llinell flaen fethu defnyddio John Charles yn deilwng.

Roedd y gêm yn ddi-sgôr tan yr egwyl a thrwy drwch yr ail hanner hefyd, gyda’r crysau cochion yn ymosod, heb unrhyw argyhoeddiad, a’r Israeliaid yn amddiffyn – yn anghyfreithlon, yn amlach na pheidio. Ni chawsai Kelsey lawer o broblemau wrth warchod ei rwyd yn yr awr gyntaf, ond ni allai fforddio ymlacio eto. Er yn annhebygol, roedd yn bosibl y byddai eiliad o ddychymyg gan un o’r ymwelwyr, neu esgeulustod gan Gymru, yn gorfodi trydydd cymal dieisiau rhwng y ddau dîm ar gyfandir Ewrop yn ystod yr wythnos ganlynol.

Serch hynny, deuai diwedd i anniddigrwydd y chwaraewyr cartref yn y chwarter olaf – ar ôl i’r dyfarnwr, Klaas Schipper, rybuddio Hodorov am ddulliau corfforol Israel. Roedd yr ymwelwyr rhan-amser wedi troi’n ddealladwy at dactegau dinistriol yn eu hymdrech i oresgyn pêl-droedwyr proffesiynol, ond bu’r Iseldirwr Schipper yn amyneddgar â hwy, gan anwybyddu’u troseddau parhaus tan hynny.

Roedd diwrnod Hodorov yn dirywio’n gyflym: torrodd y golwr dewr ei drwyn wrth iddo ymgiprys â John Charles am y bêl yn yr awyr yn yr ail gyfnod. Yn fwy difrifol, o safbwynt ei dîm, dioddefodd Hodorov gyfergyd yn y digwyddiad ac ni ddylai fod wedi aros ar y cae mewn gwirionedd. Baglodd ymlaen beth bynnag er lles Israel, a oedd mor ddibynnol arno, ond elwodd Cymru i’r eithaf ar ei gyflwr simsan gyda goliau hwyr gan Ivor Allchurch a Cliff Jones.

Diflannodd gobeithion yr amaturiaid dyfal pan aeth Allchurch ar rediad unigol cyn taro’r bêl i do’r rhwyd o ongl anodd. O fewn ychydig funudau, ychwanegodd Jones, na fu ar ei orau dan olwg sgowtiaid o Arsenal a Spurs, yr ail gôl a sicrhaodd le Cymru yn y rowndiau terfynol, yn dilyn gwaith Hewitt a Medwin.

Cymru (0) 2
Israel (0) 0

Cymru: Kelsey, Williams, Hopkins, Harrington, M Charles, Bowen, Medwin, Hewitt, J Charles, I Allchurch, C Jones.
Goliau: Allchurch 76, Jones 80
Israel: Hodorov, Levkovitc, Mordechovic, Amer, Reznik, Tish, Nahmias, Stelmach, Jojocian, Goldstein, Glazer.

Dim ond am un noson y câi Jimmy Murphy a’i chwaraewyr buddugoliaethus fwynhau’r dathliadau yng Nghaerdydd; drannoeth, ar 6 Chwefror 1958, byddai trychineb ym Munich yn torri calon y rheolwr a siglo’r byd pêl-droed i’w seiliau. Roedd tîm ifanc Manchester United newydd gael gêm gyfartal ym Melgrad yng Nghwpan Pencampwyr Ewrop pan laniodd mintai’r clwb ym Maes Awyr Munich i gasglu digon o danwydd i’w cludo adref. Lladdwyd 23 o bobl o ganlyniad i’r gwrthdrawiad a ddeilliodd o anallu’r awyren i hedfan yn y tywydd garw.

Bu farw wyth o chwaraewyr United – gan gynnwys enwogion rhyngwladol fel Roger Byrne, Tommy Taylor a Duncan Edwards – yn ogystal â chynifer o aelodau’r wasg a thri o swyddogion y clwb. Roedd Matt Busby yn un o’r cleifion: byddai’r rheolwr yn gorwedd yn yr ysbyty ym Munich am fisoedd cyn dychwelyd i Fanceinion. 

Roedd Murphy ei hun wedi osgoi’r daith angheuol – dim ond ar orchmynion Busby – oherwydd ei ymrwymiadau neilltuol gyda Chymru yng Nghwpan y Byd. Er gwaethaf ei dristwch personol, Murphy fyddai’n ysgwyddo’r baich anferth o gadw pencampwyr Lloegr ynghyd yn eu galar, am weddill y tymor o leiaf. Bedwar mis cyn bedydd y tîm cenedlaethol ar y llwyfan mwyaf oll, roedd cant a mil o orchwylion eraill ar feddwl eu rheolwr ysbrydoledig.

Os hoffech ddarllen mwy am anturiaethau pêl-droedwyr Cymru, beth am brynu fy llyfr Cymraeg digidol ar gyfer Kindle, Pêl-droed: Cymru yng Nghwpan y Byd 1950–1974, sydd ar gael ar wefan Amazon? Bydd yr holl elw sy’n deillio o’r llyfr yn helpu i hyrwyddo’r Gymraeg yn f’ardal enedigol drwy waith yr elusen Menter Bro Ogwr.

Comments

Popular posts from this blog

From the Battle of Wrexham to wunderkind Woodburn’s audacious entrance: a brief history of Wales v Austria (part three)

Diwedd breuddwyd arall i bêl-droedwyr Cymru yng Nghwpan y Byd

Llyfr digidol newydd sy’n dathlu rhai o gewri pêl-droed Cymru